1 A gerddodd neb er gordderch
2 A gerddais i gorddwy serch
3 Rhew ac eiry rhyw garedd
4 A glaw a gwynt er gloyw ei gwedd
5 ni chefais eithr nych ofwy
6 ni chafas devdroed hoed hwy
7 [93v] Er moed i gelli er meirch
8 Evrdrais elw ar draws eleirch
9 Yn anial dir yn vniawn
10 nos a dydd ac nid nes dawn
11 O dduw os vchel o ddyn
12 Ei floedd ynghelli fleddyn
13 Ymadrawdd er ei mwyn hi
14 Ymarddelw o serch bvm erddi
15 Byssaleg isselgreg son
16 Berwgav lif bergul afon
17 Mynych iawn er ei mwyn hi
18 y treiddiwn beunydd trwyddi
19 I fwlch yr awn yn falch rydd
20 mav boen dwfn meibion Dafydd
21 ac ymmaith draw i'r gammallt
22 ac i'r rhiw er gwiw ei gwallt
23 Ebrwydd y cyrchwn o'r blaen
24 gyfaelfwlch y gyfylfaen
25 I fwrw am forwyn wisg-ra
26 dremmyn ar y dyffryn da
27 Ni thry nac ymma na thraw
28 hebof yn lledrad heibiaw
29 [94r] Ystig fvm nex anaraf
30 Ar hyd pont cwcwll yr haf
31 Agogylch castell Gwgawn
32 [ ] gwydd lle cae gawn
33 Rhodiais heb adail heilin
34 Rhodiad bloesc fytheiad blin
35 Sefais goris llys Ifor
36 fal amaethmynach mewn cilfach cor
37 I geisiaw heb addaw bvdd
38 gyfarfod a gwiw forfvdd
39 Nid oes dwyn na dwys dyno
40 Yn nevtv glyn nant y glo
41 nas medrwyf o'm nwyf am Nydd
42 heb y llyfr hoywbwyll Ofydd
43 hawdd wrth leisiaw i'm dwrn
44 Gwir nod helw gwern y talwrn
45 lle cefais weled ged gv
46 llerwddynn dan fantell orddv
47 lle y gwelir yn dragywydd
48 heb dwf gwellt heb dyfv gwydd
49 llvn yn gwal dan y gwial ga
50 lle briw ddail fal llwybr Adda
51 [94v] Gwae ef yr enaid heb sal
52 Rhag blinder heb gwbl vndal
53 O thry yr vnffordd achlan
54 Ac y troes y corff trvan
Da' ap Glm'